Siomedig oedd Gŵyl San Steffan i ddau brif dîm Cymru gydag Abertawe yn colli yn Brentford a Chaerdydd yn ildio ar ôl bod ar y blaen, i gael gêm gyfartal gartre yn erbyn Millwall.
Brentford 3 Abertawe 1
Fe wnaed y difrod mewn pum munud yn yr hanner cynta’ wrth i Brentford sgorio ddwywaith ac er i Abertawe sgorio trwy Andre Ayew yn yr ail hanner a phwyso tipyn, y tîm cartre’ a gafodd y drydedd.
Roedd y ddau dîm yn gyfartal ar bwyntiau cyn y gêm – bellach mae Brentford yn bedwerydd yn y bencampwriaeth ac Abertawe wedi cwympo yn ôl i’r wythfed safle.
Yn ôl cyn chwaraewr rhyngwladol Cymru, Iwan Roberts, ar y BBC, Brentford oedd y teem gorau ac mae Abertawe’n dal i ddiodde’ o fethu â sgorio digon.
Caerdydd 1 Millwall 1
Y siom i Gaerdydd oedd eu bod wedi mynd ar y blaen ond wedi methu â chadw’r fantais am fwy na phedwar munud.
Roedd Caerdydd wedi dod yn agos yn yr hanner cynta’ ond roedd rhaid aros tan y 59fed munud am gôl, un ddigon blêr yn y blwch cosbin gan Aden Flint.
Bedwar munud yn ddiweddarach, cafodd Millwall gic rydd y tu allan i’r blwch a sgoriodd Jed Wallace glincar o gôl.
Roedd y ddau dîm yn gyfartal ar bwyntiau cyn dechrau ac maen nhw bellach yn yr 11fed a’r 12 fed safle, gyda Chaerdydd ar y blaen oherwydd gwahaniaeth goliau.