Mae Gaspar Panadero, asgellwr newydd tîm pêl-droed Caerdydd, wedi mynd ati i ddysgu Cymraeg.

Fe fydd yn symud o glwb Almeria wrth i’r ffenest drosglwyddo agor ym mis Ionawr.

Ychydig iawn o Saesneg sydd gan yr asgellwr chwith 22 oed, yn ôl gwefan euroweeklynews.com, ac roedd e’n credu mai Cymraeg yw prif iaith Cymru pan glywodd y byddai’n ymuno â’r Adar Gleision.

“Mae Gaspar wedi bod yn gwneud trefniadau ar gyfer byw yng Nghymru, ond doedd e ddim yn sylweddoli bod Saesneg yn iaith fwy cyffredin na Chymraeg yn rhannau deheuol Cymru, er bod gan y wlad ei hiaith ei hun,” meddai’r wefan

“Mae lle i gredu y bydd y trosglwyddiad yn cael ei gwblhau unwaith fydd y ffenest drosglwyddo’n agor, tra bod Gaspar yn parhau i dderbyn gwersi Saesneg a Chymraeg.”