Caernarfon 2–1 Met Caerdydd                                                     

Cipiodd Caernarfon y tri phwynt gyda gôl hwyr ar yr Oval yn erbyn Met Caerdydd yn y Cymru Premier nos Wener.

Un yr un a oedd hi cyn i Nathan Craig sgorio yn y chwarter awr olaf, yn rhwydo ar yr ail gynnig wedi i’w gic o’r smotyn gael ei harbed.

Daeth cyfle mawr cyntaf y noson hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf, Cai Jones yn mynd heibio i Will Fuller yn y gôl ond yn methu taro’r targed o ongl dynn.

Gwnaeth Jones yn iawn am hynny bum munud yn ddiweddarach, yn gorffen yn daclus ar ôl i Darren Thomas ei ryddhau un-ar-un yn erbyn y golwr.

Cafodd Thomas ei hun ddau gyfle da i ddyblu’r fantais wedi hynny ond un gôl a oedd ynddi o hyd ar yr egwyl.

Roedd y myfyrwyr yn gyfartal toc wedi’r awr, Jordan Lam yn sgorio i rwyd agored wedi i Alex Ramsay atal ergyd wreiddiol Eliot Evans.

Ond yn ôl y daeth Caernarfon wedi i Danny Brookwell gael ei lorio yn y cwrt cosbi gan Fuller.

Ac er i Fuller arbed cic o’r smotyn Craig, roedd ei amddiffynnwyr yn sefyll ar eu sodlau ar ochr y cwrt cosbi gan roi rhwydd hynt i Craig sgorio ar yr ail gynnig.

Mae’r canlyniad yn cadw Caernafon yn bumed yn y tabl a’r Met yn seithfed.

.

Caernarfon

Tîm: Ramsay, J. Williams, Craig, Edwards, Clark (John 88’), R. Williams, Smith, Bradley, Jones (Breese 66’), Thomas, Brookwell

Goliau: Jones 29’, Craig 77’

.

Met Caerdydd

Tîm: Fuller, Woolridge, Lewis, Davies (Spencer 71’), E. Evans (Phillips 85’), Baker, W. Evans, Corsby, Lam, Edwards, J. Evans

Gôl: Lam 62’

.

Torf: 610