Maldon & Tiptree 0–1 Casnewydd
Roedd angen gôl hwyr Padraig Amond ar Gasneqydd i drechu Maldon & Tiptree yn ail rownd y Cwpan FA nos Wener.
Fe chwaraeodd y tîm cartref yn dda yn y Wallace Binder Ground ond rhwydodd Amond i osgoi embaras i’r Alltudion yn erbyn y tîm o Adran y Gogledd Cynghrair Isthmian, wythfed haen pêl droed Lloegr.
Casnewydd a ddechreuodd orau ond roedd angen i Nick Townsend fod yn effro rhwng y pyst i atal Kojo Awotwi rhag rhoi’r tîm cartref ar y blaen.
Gwastraffodd Mark O’Brien ddau gyfle da i Gasnewydd ond Tristan Abrahams a oedd y mwyaf gwastraffus. Fe ddylai’r blaenwr fod wedi sgorio wedi i’r gôl-geidwad cartref wneud traed moch o groesiad i’r postyn pellaf ond cafodd ei gynnig gwael ei glirio oddi ar y llinell gan yr amddiffynnwr, Lance Akins.
Patrwm tebyg a oedd i’r ail hanner, gyda’r gêm yn symud o un pen i’r llall fel gêm gwpan go iawn.
Bu oedi hir hanner ffordd trwy’r hanner oherwydd anaf pen i Kyle Howkins.
Wedi i’r gêm ail ddechrau daeth Stephane Ngamvoulou yn agos gydag ergyd o bellter, yn gorfodi arbediad acrobataidd gan Townsend.
Yna, wrth i’r cloc gyrraedd y naw deg fe ddaeth eilad fawr y gêm, croesiad gwych George Nurse yn canfod Amond ar y postyn pellaf a’r Gwyddel, a gafodd gêm ddistaw ar y cyfan, yn penio i’r gornel isaf i ennill y gêm i’w dîm.
Tîm Mike Flynn yn osgoi embaras felly a hwy fydd yn gobeithio am dîm awr wrth i’r enwau gael eu tynnu allan o’r het ar gyfer y drydedd rownd.
.
Maldon & Tiptree
Tîm: McNamara, Awotwi, Gordon, Akins, Girdlestone (Kazeem 79’), Ngamvoulou, Dombaxe (Kaid 90+4’), Hyde, Parish, Hughes, Stew
Cardiau Melyn: Hyde 8’, Akins 90+4’
.
Casnewydd
Tîm: Townsend, O’Brien (Poleon 59’), Inniss, Howkins (Nurse 67’), Jeffries, Dolan, Sheehan, Haynes, Amond, Matt, Abrahams
Gôl: Amond 90’
Cardiau Melyn: Matt 90+12’, Abrahams 90+12’
.
Torf: 1,876