Mae disgwyl y bydd amddiffynnwr Cymru a Tottenham Hotspur Ben Davies allan am “gyfnod sylweddol” wedi iddo anafu ei ffêr.

Cafodd Ben Davies yr anaf yn ystod gêm gartref yn erbyn West Ham United ddydd Sadwrn diwethaf (Tachwedd 23).

“Gallwn gadarnhau fod Ben Davies wedi niweidio ligament yn ei ffer chwith yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn West Ham United ddydd Sadwrn,” meddai datganiad gan glwb Spurs.

“Dyw hi ddim yn edrych yn dda. Mi fydd hi’n dipyn o amser.”

Mae Ben Davies wedi gwneud naw ymddangosiad i Tottenham Hotspur y tymor hwn ac roedd yn rhan allweddol o’r tîm rhyngwladol Cymreig sydd wedi cyrraedd Ewro 2020.