Fe fydd y Cymro, Dylan Levitt, o Bodelwyddan yn Sir Ddinbych yn dechrau gêm i dîm pêl-droed Manchester United am y tro cyntaf yfory (dydd Iau, Tachwedd 28).
Mae’r chwaraewr canol cae 19 oed wedi teithio gyda’r garfan ifanc i Astana yn Kazhakstan ar gyfer y gêm yng Nghynghrair Europa.
Mae’r garfan hefyd yn cynnwys Ethan Laird a Di’Shon Bernard wrth i’r rheolwr Ole Gunnar Solskjaer roi cyfle i rai o’r to iau ar ôl cymhwyso eisoes ar gyfer rownd y 32 olaf.
Dydy 10 o’r garfan ddim wedi chwarae i’r tîm cyntaf o’r blaen, ond fe fydd rhai wynebau profiadol hefyd, gan gynnwys Luke Shaw, Jesse Lingard ac Axel Tuanzebe.
Hefyd yn y garfan mae’r golwr 36 oed, Lee Grant, sydd heb chwarae i’r tîm cyntaf o’r blaen.
‘Synnwyr cyffredin’
Yn ôl Ole Gunnar Solskjaer, “synnwyr cyffredin” yw dewis y chwaraewyr ifainc ar gyfer y gêm.
“Rydyn ni wedi gwneud yn wych i gymhwyso ar ôl pedair gêm, felly mae’n rhoi cyfle i ni roi amser mewn gemau i’r chwaraewyr profiadol sydd angen hynny: Axel, Luke a Jesse,” meddai.
“Dydyn nhw ddim wedi cael llawer o gemau ac maen nhw’n dychwelyd ar ôl anafiadau.
“Mae’n gyfle gwych i fi gael rhoi dechreuad cyntaf i’r clwb i Lee.
“Mae’n anodd o ran y plant ifainc i roi digon o gemau proffesiynol iddyn nhw yn erbyn dynion.
“Mae gyda ni Dlws yr EFL ac i fi, mae hwn yn gyfle gwych i fi eu gweld nhw i gyd gyda’i gilydd.”