Merch o Loegr yw prif weithredwr Criced Cymru, oedd wedi hysbysebu’r swydd heb sôn o gwbwl am y gallu i siarad Cymraeg.
Bydd Leshia Hawkins yn olynu Peter Hybart, oedd wedi cyhoeddi’n ddiweddar ei fod yn gadael ei swydd ar ddiwedd y flwyddyn, ac mae hi’n dweud ei bod hi’n gobeithio adeiladu ar lwyddiant tîm criced Lloegr i dyfu’r gêm yng Nghymru.
Bydd y prif weithredwr newydd yn dechrau ar ei gwaith ym mis Chwefror, ar ôl blynyddoedd lawer yn gweithio i Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) a chydweithio â thîm cenedlaethol Lloegr.
Mae ganddi lu o brofiad ym maes criced, ar ôl bod yn gweithio yn Llundain, lle’r oedd hi’n gyfrifol am dyfu’r gêm yn yr ardal honno.
Bu’n cydweithio â siroedd a byrddau criced Middlesex, Surrey, Caint ac Essex fel rhan o’r prosiect Ysbrydoli’r Cenedlaethau – sydd wedi cael ei gamsillafu fel ‘Ysbridoli’ yn y datganiad i’r wasg yn cyhoeddi ei phenodiad.
Ymhlith ei phrif lwyddiannau roedd sefydlu Ymddiriedolaeth Criced Llundain, ailstrwythuro nifer o gynghreiriau i ferched a sicrhau buddsoddiad yn y gêm i blant.
Yn y gorffennol, bu’n Rheolwr Datblygu Busnes yr ECB, gan sicrhau nawdd i dîm cenedlaethol Lloegr.
Mae hi hefyd yn aelod anweithredol o fwrdd cyfarwyddwyr Athletau Lloegr (England Athletics), a hithau’n arbenigo ym meysydd marchnata a masnach yn ogystal â chydraddoldeb.
Yn ystod ei chyfnod yn chwarae’r gêm, hi oedd capten tîm merched Prifysgol Durham.
Croesawu’r prif weithredwr i Gymru
“Rydym wrth ein boddau o gael croesawu Leisha fel ein prif weithredwr newydd ac edrychwn ymlaen at ei gwaith gyda’r Bwrdd ar ein strategaeth newydd gyda Chlwb Criced Morgannwg,” meddai Rod Jones, cadeirydd Criced Cymru.
“Mae gan Leisha angerdd go iawn am griced ac mae hi’n dod â phrofiad rhagorol o ddatblygu chwaraeon, busnes a rheoli perthnasau gyda hi i’r swydd.”
Dywed Leshia Hawkins ei bod hi’n “ddiolchgar iawn” am y swydd.
“Alla i ddim aros i gael cydweithio â’r holl bobol angerddol sydd ynghlwm wrth ein camp yng Nghymru, yn enwedig ar adeg mor gyffrous i griced, gan elwa ar fuddugoliaeth y dynion
yng Nghwpan y Byd yn yr haf, dyfodiad y gystadleuaeth Can Pelen newydd i ddynion a merched a strategaeth newydd criced,” meddai.
“Byddaf yn canolbwyntio’n bennaf ar sicrhau ein bod ni’n meithrin ein marchnad graidd o chwaraewyr ond hefyd, sicrhau bod ein gêm mor hygyrch a chroesawgar â phosib i bob grŵp.”