Mae Neil Harris, rheolwr newydd tîm pêl-droed Caerdydd, yn dweud bod gwell i ddod ar ôl gwylio’i dîm yn curo Stoke o 1-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Rhwydodd Leandro Bacuno ar ôl deg munud i gipio’r triphwynt i’w dîm, wrth i dafliad Lee Peltier gyrraedd traed Gary Madine.
Rhedodd Leandro Bacuno heibio i’r amddiffynnwr Bruno Martins Indi i gyrraedd y bêl ac ergydio heibio i’r golwr Jack Butland.
“Doedd hi ddim yn glasur,” meddai’r rheolwr wedyn.
“Roedd hi’n nodweddiadol o gêm bêl-droed bytiog ar nos Fawrth.
“Chwaraeon ni bêl-droed agored ac eang ar y penwythnos. Roedd hi’n gyffrous ond fydd hi ddim bob amser fel hynny.
“Ro’n i’n meddwl bod gyda ni fwy o strwythur heno a mwy o siâp arnyn nhw.
“Dw i wrth fy modd ar ran y chwaraewr. Byddwn ni’n well na hynny, dw i’n addo i chi.
“Os oes angen i ni dorchi llewys a brwydro fel yna, dw i’n credu y gallwn ni wneud hynny.”