Mae Stuart Pearce a  Hope Powell wedi cael eu henwi fel hyfforddwyr pêl-droed Prydain ar gyfer y gemau Olympaidd yn Llundain 2012.

Mae Pearce, sydd yn gyn hyfforddwr Manchester City ond nawr yn hyfforddwr ar dîm dan 21 Lloegr, wedi cael y dasg o arwain a dewis carfan y dynion.

Bydd rhaid iddo ddewis carfan o 18 o chwaraewyr gydag uchafswm o dri chwaraewr sy’n hŷn na 23 oed.  Mae David Beckham yn barod wedi mynegi ei ddiddordeb mewn cymryd rhan.

Dadleuol

Mae’r penderfyniad i gael tîm pêl-droed Prydeinig yn y gemau wedi ysgogi dadlau chwyrn o gyfeiriad y gwledydd Celtaidd, ond ar y cyfan mae chwaraewyr Cymreig fel Aaron Ramsey a Gareth Bale wedi bod yn gefnogol i’r syniad.

Bydd Prydain yn gosod tîm dynion yn y gemau Olympaidd am y tro cyntaf ers i’r gemau gael eu cynnal yn Rhufain yn 1960, a blwyddyn nesaf fydd y tro cyntaf erioed i’r tîm merched gystadlu yn y gystadleuaeth.

Mae gan y ddau opsiwn i ddewis chwaraewyr o Loger, Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Chwaraewyr o bob gwlad

Yn ôl Pearce, fe fydd yn ceisio dewis tîm sy’n cynnwys chwaraewyr o’r pedair gwlad.

“Dwi ddim yn dod i’r swydd yma er mwyn dewis dim ond chwaraewyr Lloegr” meddai Pearce.

“Os yn bosib dylai gynnwys chwaraewyr o holl wledydd y D.U.”

“Dylen nhw ddod ymlaen a chynnig eu chwaraewyr i gael eu dewis. Bydd llawer yn dibynnu ar feddylfryd y chwaraewyr” ychwanegodd cyn gefnwr Nottingham Forrest.

“Os ydyn nhw am fod yn rhan o’r peth yna byddai hynny’n ffantastig. Dwi’n meddwl y byddan nhw.”

Balch o’r cyfle

Dywedodd Pearce ei fod yn falch o’r cyfle i gael gwneud y swydd.

‘‘Rwyf yn falch iawn i gael y cyfle yma ac yn edrych ymlaen at ddechrau.  Roeddwn yn ffodus i fod yn rhan o Euro 96, felly rwy’n gwybod yn iawn sut brofiad yw hi i chwarae dros eich gwlad ar dir cartref mewn cystadleuaeth bwysig’’, meddai Pearce.

‘‘Rwy’n siŵr bydd y chwaraewyr yn gwneud yn fawr o’r cyfle, nid yn unig i gymryd rhan mewn cystadleuaeth fawr ond yn un sydd yn dod a phawb at ei gilydd i gynrychioli’r Deyrnas Unedig’’.

Mae Hope Powell, sy’n hyfforddi tîm pêl-droed merched Lloegr ers 1998 wedi arwain ei thîm i rowndiau terfynol cystadlaethau bedair gwaith yn olynol.

Powell oedd y dewis disgwyliedig i hyfforddi tîm merched Prydain ar ôl arwain Lloegr i’r wyth olaf ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd yn ddiweddar.