Mae llwyddiant Ryan Giggs wrth arwain tîm pêl-droed Cymru i Ewro 2020 yn debygol o dawelu ei feirniaid, yn ôl y chwaraewr canol cae Joe Allen.

Cafodd y cyn-chwaraewr ei feirniadu gan nifer helaeth o gefnogwyr adeg ei benodiad, wrth iddo olynu Chris Coleman ar ôl llwyddiant y tîm yn Ewro 2016 yn Ffrainc wrth gyrraedd y rownd gyn-derfynol.

Fe fu rhai hefyd yn tynnu sylw at ddiffyg ymroddiad honedig pan oedd e’n chwarae i’r tîm, ar ôl iddo gael enw drwg am dynnu’n ôl o gemau cyfeillgar.

Roedd ei ddewisiadau a’i dactegau hefyd dan y lach ar ôl colli yn erbyn Croatia a Hwngari dros yr haf.

Ond cipiodd Cymru wyth pwynt o’u pedair gêm olaf i sicrhau eu lle yn y rowndiau terfynol haf nesaf.

“Mae e wedi cael ei feirniadu, ond mae e wedi cyflawni hefyd, mae e mor syml â hynny,” meddai Joe Allen.

“Daeth e ar ôl rheolwr gwych [Chris Coleman] oedd wedi cael llwyddiant mawr, ac roedd bob amser yn mynd i fod yn anodd.

“Ond mae e wedi mynd â ni yno.

“Dw i’n credu bod popeth wedi cael ei gwestiynu – dewisiadau, tactegau ond naw gwaith allan o ddeg mae e wedi gwneud y pethau iawn.”