Mae tîm pêl-droed Casnewydd drwodd i ail rownd Cwpan FA Lloegr, ar ôl curo Grimsby o 2-0 yn Rodney Parade neithiwr (nos Fercher, Tachwedd 20).
Tarodd Padraig Amond ergyd lwyddiannus ar ôl 49 munud i sgorio’i seithfed gôl mewn naw gêm yn y gystadleuaeth.
Dyblodd yr Alltudion eu mantais yn ystod yr amser a ganiateir am anafiadau, pan rwydodd y capten Joss Labadie.
Hyd yn oed wedi hynny, roedd rhagor o gyffro pan gafodd yr amddiffynnwr Mattie Pollock gerdyn coch i adael Grimsby â deg dyn.
Tra bydd Casnewydd yn chwarae Maldon a Tiptree yn yr ail rownd, mae’n cau pen y mwdwl ar wythnos siomedig i Grimsby, ar ôl gweld eu rheolwr Michael Jolley yn gadael y clwb yn dilyn ffrae danllyd â newyddiadurwyr, ar ôl iddo regi atyn nhw 58 gwaith mewn sgwrs o bedair munud.