Mae gwneuthurwr y faner ‘Cymru. Golff. Madrid.’ oedd i’w gweld yn y dathliadau yn Stadiwm Dinas Caerdydd neithiwr (nos Fawrth, Tachwedd 19) yn dweud bod ei fusnes yn elwa o’r cyhoeddusrwydd.
Roedd y faner i’w gweld wrth i chwaraewyr pêl-droed Cymru ddathlu cyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2020 ar ôl curo Hwngari.
Mae’r geiriau’n deillio o sylwadau Pedrag Mijatovic, a gyhuddodd Bale o flaenoriaethu Cymru, a hefyd chwarae golff, dros ei glwb, Real Madrid.
Mae’r fideo o’r chwaraewyr gyda’r faner wedi ei rhannu gannoedd o filoedd o weithiau gan wahanol gyfrifon ar Twitter, a hefyd y cyfryngau rhyngwladol.
Gwerthu mwy yn Sbaen
“Rydyn ni eisoes yn eithaf adnabyddus yng Nghymru, sef ein prif farchnad – ond yn amlwg mae gyda ni eithaf tipyn o bobl yn Sbaen yn edrych arnom ni,” meddai Charles Ashburner, perchennog cwmni Mr Flag, wrth golwg360.
“A phwy a ŵyr p’un ai peth da yw hwnna ai peidio!
“I ni, mae’n golygu, yn y tymor byr, fod tipyn o bobl wedi bod yn gofyn a allen nhw brynu copïau o’r faner, ac rydyn ni wedi siarad gyda’r person y gwnaethon ni’r faner ar eu cyfer nhw yn wreiddiol, ac roedd e’n iawn gyda hynny. Felly rydyn ni’n creu rhagor.”
Ac mae’n dweud bod y faner i’w gweld yn boblogaidd yn Sbaen hefyd.
“Yn rhyfedd ddigon, o’r gwerthiannau o’r faner honno heddiw, mae gwerthiannau i bobl yn Sbaen ddwywaith mor uchel â gwerthiannau i bobl yng Nghymru!
“Doedden ni ddim yn disgwyl hynny. Pwy a ŵyr p’un a ydyn nhw eisiau’r faner am ei bod meddwl ei bod hi’n ddoniol, neu oherwydd eu bod nhw am wneud rhywbeth erchyll â hi.
“Gwnawn nhw stryffaglu os ydyn nhw’n trio eu llosgi, am fod ein baneri yn wrthfflam!
“Yn yr hir-dymor, rydyn ni’n gwneud tipyn o fusnes ar Twitter, felly bydd hyn ond yn helpu ein cyflwyno i gynulleidfa.”
“Eiconig”
Yn ôl Charles Ashburner, tipyn o jôc oedd creu’r faner i ddechrau.
“Pan rydyn ni’n creu baner, does dim modd gwybod beth fydd yn digwydd. Gwelson ni’r dyfyniad ar Twitter – gwnaeth rhywun jôc yn wreiddiol: ‘carwn i gael baner gyda hwnna arni hi’ – ac fe wnaethon ni neidio i mewn a’i dylunio a’i rhoi hi yn yr edefyn Twitter am bach o sbort.
“Wedyn fe wnaeth rhywun ei phrynu, a lledaenodd hi o fynna. Fe wnaeth y dyn a’i prynodd hi roi lluniau ohoni ar Twitter yr wythnos ddwetha, ac roedd pobl yn dweud pa mor wych yw hi, ac roedd honno’n foment fawr i’r faner.
“Ond pan wnaeth y bechgyn ar y cae ei gweld hi a mynd â hi ar y cae a dawnsio o’i hamgylch… Mae wedi bod yn gyffrous i’w weld. Mae’n eiconig bellach”
‘Syndod braf iawn’
Meddai’r cyfrif Twitter, ‘Buzz Boncath’, a archebodd y faner yn wreiddiol:
“Syndod i mi, ond syndod braf iawn, oedd bod chwaraewyr Cymru am gael llun gyda fy maner ar ôl y gêm neithiwr. Dwi’n ystyried ei fframio!” meddai neges ar gyfrif Twitter Buzz Boncath, archebwr y faner.
“Archebais i’r faner er mwyn gwneud hwyl ar ben syniadau rhai o gefnogwyr Real Madrid am Gareth Bale. Mae’n un o oreuon Cymru erioed. Mae’n haeddu parch ac mae’r cefnogwyr yn ei garu e.
“Dwi wedi cael fy synnu gan y sylw mae wedi ei chael ar Twitter. Dim ond un fricsen yn y Wal Goch ydw i, rhywun sydd wedi bod yn gwylio Cymru ers sbel ac sydd wrth ei fodd gyda’n llwyddiant cyfredol.”