Fe fydd Grimsby yn teithio i Gasnewydd heno ar gyfer gêm sy’n cael ei hail-chwarae yn rownd gyntaf Cwpan FA Lloegr – lai nag wythnos ar ôl i’w rheolwr Michael Jolley adael y clwb ar ôl regi at newyddiadurwyr.
Roedd ffrae rhwng y rheolwr a newyddiadurwyr BBC Radio Humberside ar ôl i’r tîm golli o 4-0 yn erbyn Leyton Orient.
Cafodd ei ddiswyddo ar ôl i berchnogion Grimsby gael gwybod am y digwyddiad, pan regodd e 58 o weithiau mewn pedair munud.
Dywedodd y clwb eu bod nhw wedi cael “sioc” o glywed yr iaith ddefnyddiodd Michael Jolley.
Maen wedi ymddiheuro wrth y BBC, ac fe fydd gwrandawiad disgyblu ddydd Gwener ar ôl iddyn nhw gynnal ymchwiliad.
Yn dilyn y digwyddiad, fe ddaeth Michael Jolley a Grimsby i gytundeb ynghylch ei swydd, ac fe gafodd y cyfle i adael o’i wirfodd, ac mae’r clwb yn mynnu na chafodd ei ddiswyddo.