Mae Neil Warnock, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, wedi canmol Joe Ralls am sgorio hatric yn y fuddugoliaeth o 4-2 dros Birmingham, er ei fod e’n chwarae ag anaf.

Ymhlith yr hatric roedd dwy gic o’r smotyn, gyda’r holl goliau’n dod o fewn cyfnod o bum munud.

Sgoriodd Lukas Jutkiewicz a Kristian Pedersen o fewn 17 munud cynta’r gêm i roi Birmingham ar y blaen o 2-0.

Ond cafodd yr Adar Gleision gic o’r smotyn ar ôl i Harlee Dean dynnu crys Aden Flint.

Fe wnaeth Joe Ralls drosi’r gic ddadleuol o’r smotyn cyn i Curtis Nelson rwydo’i gôl gyntaf.

Cafodd Danny Ward ei anfon o’r cae am dacl flêr ar Kerim Mrabti ond sgoriodd Joe Ralls ei ail gôl yn fuan wedyn.

Tarodd Ivan Sunjic chwip o ergyd o 25 llathen i roi llygedyn o obaith i Birmingham, ond cafodd Harlee Dean ei anfon o’r cae yn hwyr yn y gêm am ddefnyddio’i benelin ar Joe Ralls.

Canmol

“Gallech chi weld y boen pan ddaeth e oddi ar y cae ar y diwedd, ond bydd hynny’n cilio heno wrth iddo fe sylweddoli ei fod e wedi sgorio’i hatric cyntaf ers nifer o flynyddoedd yma,” meddai’r rheolwr.

“Y peth am Ralls yw mai fe yw’r chwaraewr mwyaf hawdd i’w feirniadu ymhlith y cefnogwyr, ond dyw e byth yn cuddio, mae e bob amser eisiau’r bêl hyd yn oed pan nad yw e’n cael amser da.

“Mae’n gofyn am dipyn o ddewrder i chwarae yn y modd mae e’n ei wneud, felly rhaid ei ganmol e ar ôl iddo fe gael diwrnod fel heddiw.

“Gobeithio’i fod e wir yn mwynhau’r penwythnos.”