Gleision 23–33 Munster
Munster a aeth â hi wrth iddynt deithio i Barc yr Arfau i wynebu’r Gleision yn y Guinness Pro14 nos Sadwrn.
Ciciau cosb a oedd unig bwyntiau’r chwarter cyntaf, dwy o droed Jarrod Evans ac un gan JJ Hanrahan, y Gleision yn arwain o chwe phwynt i dri.
Daeth cais cyntaf y gêm wedi hynny wrth i’r blaenasgellwr, Chris Cloate, groesi i’r Gwyddelod. Llwyddodd Hanrahan gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb i ymestyn mantais Munster i saith pwynt.
Ond cyfartal a oedd hi ar yr egwyl wedi i’r prop, Corey Domachowski, dwrio’i ffordd at y llinell gais, 13 pwynt yr un wedi trosiad Evans.
Ciciodd Evans y Gleision dri phwynt ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner ond aeth y gêm o’u gafael yn fuan wedi hynny wrth i Munster groesi am dri chais. Y mewnwr, Alby Mathewson a gafodd ddau ohonynt, o bobtu i un gan yr asgellwr, Calvin Nash.
Croesodd yr eilydd, Nick Williams, am gais i’r Gleision funud o’r diwedd ond rhy ychydig rhy hwyr a oedd hynny, 23-33 y sgôr terfynol.
Mae’r canlyniad yn cadw tîm John Mulvihill yn chweched yn nhabl adran B y Pro14.
.
Gleision
Ceisiau: Corey Domachowski 40’, Nick Williams 79’
Trosiadau: Jarrod Evans 40’, Tovey 79’
Ciciau Cosb: Jarrod Evans 8’, 15’, 48’
.
Munster
Ceisiau: Chris Cloete 24’, Alby Mathewson 50’, 67’, Calvin Nash 60’
Trosiadau: JJ Hanrahan 25’, 51’
Ciciau Cosb: JJ Hanrahan 14’, 32’, 74’