Wigan 1–2 Abertawe
Cododd Abertawe i frig y Bencampwriaeth, am ychydig oriau o leiaf, gyda buddugoliaeth dros Wigan yn y gêm gynnar yn Stadiwm DW brynhawn Sadwrn.
Cyfartal a oedd hi wedi naw deg munud cyn i ddau o eilyddion Abertawe gyfuno i gipio’r tri phwynt, gyda Connor Roberts yn croesi i Sam Surridge sgorio.
Abertawe a ddechreuodd orau ac roeddynt ar y blaen wedi deuddeg munud, Nathan Dyer yn rhwydo wedi gwaith creu da Kyle Naughton a Bersant Celina ar y chwith.
Roedd Wigan yn gyfartal o fewn deg munud serch hynny, Mike van der Hoorn yn tynnu crys Cheyenne Dunkley wrth geisio amddiffyn cic gornel a blaenwr Cymru, Kieffer Moore, yn sgorio o’r smotyn.
Felly yr arhosodd pethau tan yr ail funud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm pan ddwynodd y Cymry’r pwyntiau i gyd gyda pheniad isel Sam Surridge o groesiad cywir Connor Roberts.
Mae’r tri phwynt yn codi tîm Steve Cooper i frig y Bencampwriaeth ond gall West Brom, Preston a Leeds fynd uwch eu pennau yn dilyn eu gemau nhw y penwythnos hwn.
.
Wigan
Tîm: Marshall, Sterling, Dunkley, Kipre, Robinson, Williams, MacLeod (Jacobs 56’), Morsy, Massey (Gelhardt 70’), Moore, Lowe (Pilkington 88’)
Gôl: Moore [c.o.s.] 21’
Cardiau Melyn: Morsy 28’, Sterling 34’, Massey 41’, Williams 72’
.
Abertawe
Tîm: Woodman, Naughton, Wilmot, van der Hoorn, Bidwell, Byers, Grimes, Dyer (Roberts 70’), Celina (Fulton 90+1’), Routledge (Surridge 79’), Ayew
Goliau: Dyer 12’, Surridge 90+2’
Cardiau Melyn: Ayew 21’, Byers 27’
.
Torf: 9,080