Hattrick i Rose (Llun o wefan CPD Casnewydd)
Casnewydd 3 – 1 Kettering

Sgoriodd Danny Rose deirgwaith i sicrhau ail fuddugoliaeth Casnewydd dan reolaeth Justin Edinburgh heno.

Troseddodd John Dempster yn erbyn Sam Foley gan arwain at gic o’r smotyn a gôl gyntaf Rose wedi 34 munud.

Dair munud yn ddiweddarach roedd yr ymwelwyr lawr i ddeg dyn yn dilyn cerdyn coch i Adam Cunnington am drosedd ar Tommy Doherty.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i Kettering cyn yr hanner wrth i Dempster ildio cic o’r smotyn arall yn ogystal â gweld ail gerdyn melyn gan ymuno â Cunnington am gawod gynnar.

Yn eironig, methodd Rose ei ail gic o’r smotyn ac roedd yr ymwelwyr yn gyfartal erbyn hanner amser wrth i Moses Ashikodi rwydo o groesiad Marcus Kelly.

Dangosodd mantais y tîm cartref yn yr ail hanner wrth i Rose eu rhoi ar y blaen wedi 52 munud cyn i gyn chwaraewr Man UTD rwydo’i drydedd i selio’r fuddugoliaeth ar yr awr.