Buddugoliaeth arall i dîm Andy Morrell
Luton Town 0 – 1 Wrecsam

Mae Wrecsam wedi cynnal eu safle ar frig Uwch Gynghrair y Blue Square wedi buddugoliaeth oddi-cartref yn Luton heno.

Roedd gôl gan Mathias Pogba ar ôl 73 munud yn ddigon i gipio’r triphwynt.

Mae’n fuddugoliaeth dda arall i’r rheolwr dros dro, Andy Morrell, yn enwedig wrth fod Luton yn ymladd tua brig yr adran eu hunain.

Hon oedd chweched fuddugoliaeth Wrecsam mewn saith gêm ers i Morrell gymryd yr awenau wedi ymadawiad Dean Saunders i reoli Doncaster Rovers.

Mae’n siŵr o gryfhau achos Morrell dros gael ei benodi i’r swydd yn barhaol, gyda’r chwaraewyr eisoes wedi lleisio eu cefnogaeth iddo.

Mae Wrecsam yn cadw eu mantais o bedwar pwynt ar frig y gynghrair gan fod Fleetwood Town hefyd wedi ennill heno.