Roedd gôl gynnar i Don Cowie heno (Llun - Jon Candy CCA 2.0)
Peterborough 4 – 3 Caerdydd

Mae Caerdydd wedi llithro i’r deuddegfed safle ym Mhencampwriaeth Lloegr ar ôl colled siomedig yn Pererborough heno.

Gyda deg mynd yn weddill roedd pethau’n edrych yn dda i’r Cymry ar ôl i gôl gan Aron Gunarsson eu rhoi ar y blaen o 3-2, ond sgoriodd y tîm gartref ddwy gôl hwyr i chwalu gobeithion tîm Malky Mackay.

Caerdydd aeth ar y blaen yn fuan yn y gêm diolch i gôl Don Cowie wedi dim ond 6 munud.

Er hynny, roedd Peterborough yn arwain o 2-1 erbyn hanner amser wedi i George Boyd a Grant McCann sgorio o fewn tair munud i’w gilydd.

Daeth Caerdydd yn gyfartal ar yr awr diolch i gic rydd Peter Whittingham, cyn i Gunarsson eu rhoi ar y blaen 19 munud yn ddiweddarach.

Yn anffodus i’r Adar Glas, ildiodd Andrew Taylor gic o’r smotyn gyda munudau’n weddill – McCann yn sgorio eto – cyn i’r eilydd Paul Taylor gipio’r gôl fuddugol ddwy funud wedi’r 90 munud gwreiddiol.