Mae chwaraewr canol cae Cymru Joe Allen yn credu y gall Cymru gymryd cam mawr tuag at Ewro 2020 fis nesaf er na fydd o ar gael i chwarae.

Ni fydd Joe Allen ar gael i chwarae yn erbyn Azerbaijan ar Dachwedd 16 gan iddo gael ei drydydd cerdyn melyn o’r ymgyrch yn ystod y gêm gyfartal yn erbyn Croatia neithiwr (Hydref 14).

“Wrth edrych yn ôl roedd Ben Davies mewn safle da ac roedd hi’n dacl doeddwn i ddim angen ei wneud,” meddai Joe Allen.

“Yn amlwg alla’i ddim chwarae yn erbyn Azerbaijan, sy’n hynod siomedig.”

“Ond rwyf yn hyderus yng ngallu’r bechgyn, ac efo lwc mi fydda’i yn ôl ar gyfer y gêm olaf.”

Mae gêm grŵp olaf Cymru gartref yn erbyn Hwngari ar Dachwedd 19.