Ar ôl perfformiad da yn Slovakia nos Iau, mae Cymru wrthi’n paratoi ar gyfer her fawr arall yn erbyn Croatia yng Nghaerdydd nos yfory.
Fe fydd yn rhaid aros tan y bore i weld a fydd chwaraewr canol cae, Aaron Ramsey, yn ddigon iach i chwarae, ar ôl anafu ei glun yng ngêm fuddugol Juventus yn erbyn Inter Milan yr wythnos ddiwethaf.
“Rydym yn rhoi cymaint o amser ag sy’n bosibl iddo,” meddai’r rheolwr Ryan Giggs. “Gawn ni weld sut y bydd yn y bore.”
Pedwerydd yw Cymru yn y Grŵp E ar hyn o bryd, chwe phwynt y tu ôl i Croatia, sydd ar y brig, a Slovakia, sy’n ail.
Mae Ryan Giggs yn cydnabod y bydd wynebu Croatia yn her anodd:
“Maen nhw’n mynd i’r gêm fel ffefrynnau oherwydd y chwaraewyr sydd ganddyn nhw,” meddai.
“Ond mae’r ffaith ein bod ni adref yn cydbwyso hynny rywfaint. Mae angen inni fod yn ymosodol ond gan adnabod eu bygythiad gwrth-ymosod hefyd.”
Gareth Bale
Mae Gareth Bale yn cyfaddef ei fod yn lwcus o gael chwarae yfory ar ôl bod yn agos i gael ei anfon o’r cae nos Iau.
Roedd eisoes wedi cael cerdyn melyn pan wnaeth daro amddiffynnydd Slovakia, Milan Skrinar, i’r llawr wrth i’r gêm gyfartal 1-1 ddirwyn i ben yn Trnava.
Mae’n bosibl iddo arbed cael cerdyn coch gan iddo yntau hefyd gael ei anafu yn y gwrthdrawiad.
“Dw i’n iawn – y cyfan a ges i oedd cnoc ar fy mhen-glin, ac fe wnaeth tipyn o iâ ddatrys hynny,” meddai. “Ro’n i’n fwy pryderus am gael fy anfon i ffwrdd â bod yn onest. Ro’n i’n hapus o fod wedi osgoi hynny!
“Eto i gyd, dw i ddim yn meddwl fy mod i’n haeddu melyn am y drosedd gyntaf, felly efallai fod rhyw fath o degwch yn hynny.”
Os caiff ei gosbi eto, fe fydd yn colli gêm.
“Dw i’n sylweddoli na allaf wneud gormod o daclo gwirion,” meddai.
“Does gen i ddim eisiau colli dim gemau i Gymru, yn enwedig ar adeg mor dyngedfennol.
“Fe fydd yn rhaid imi fod yn barod am i rywun geisio fy ngwylltio er mwyn imi gael fy ngwahardd.”
Ar ôl y gêm yn erbyn Croatia yfory, fe fydd Cymru’n chwarae yn erbyn Azerbaijan a Hwngari ym mis Tachwedd. Pe bai Cymru’n ennill y tair gêm, fe fyddan nhw’n sicr o fynd drwodd i’r rowndiau terfynol. Hyd yn oed o golli yfory fe allen nhw fod yn lwcus cyn belled â’u bod nhw’n curo’r ddwy arall.