Er bod amheuon a fydd yr Alban yn gallu chwarae Japan yfory, mae’r teiffŵn yn annhebygol o effeithio ar y gêm rhwng Cymru ac Wrwgwai.
Mae’n cael ei chwarae yn ninas Kumamoto yn ne-orllewin y wlad, sydd dros 700 milltir i ffwrdd o Tokyo.
Wrth edrych ymlaen ymhellach at y gemau go-gyn-derfynol, pryd y bydd Cymru’n debygol o wynebu Ffrainc, mae’r hyfforddwr amddiffyn Shaun Edwards yn rhybuddio bod yn rhaid i Gymru wella ei hamddiffyniad.
Mae Cymru wedi ildio wyth cais mewn tair gêm grŵp D, gydag ystadegau’n dangos bod nifer uchel o dacliadau wedi methu yn erbyn Ffiji dydd Mercher.
“Fe wnaethon ni fethu 25 o dacliadau, er bod y rhan fwyaf o’r rhain yn erbyn y ddau asgellwr Josua Tuisova a Semi Radradra sy’n athletwyr anhygoel,” meddai Shaun Edwards.
“Mae’n amlwg ein bod ni’n methu gormod, a rhaid inni sylweddoli bod gan Ffrainc hefyd unigolion ac athletwyr tebyg anhyhoel o ddawnus, a rhaid i ni wella’r sefyllfa.”
Os byddan nhw’n curo Wrwgwai yfory dyma’r tro cyntaf ers 1987 i Gymru fod yn ddiguro trwy gemau grŵp cwpan y byd.