Mae dyfalu a fydd Gareth Bale yn chwarae i Gymru yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Belarws yng Nghaerdydd nos yfory (nos Lun, Medi 9).

Sgoriodd yr ymosodwr y gôl fuddugol nos Wener wrth i Gymru guro Azerbaijan o 2-1 yn y gêm ragbrofol ar gyfer Ewro 2020.

Fe fu’n ymarfer gyda’r garfan heddiw, ac fe fydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch ei gynnwys yn y tîm neu ymhlith yr eilyddion.

Mae Gareth Bale yn dweud ei fod yn credu y gall Cymru gyrraedd y gystadleuaeth y flwyddyn nesaf, er iddyn nhw golli eu dwy gêm gyntaf, a dod yn agos i gael embaras yn erbyn Azerbaijan yn dilyn perfformiad siomedig ar y cyfan.

“Fyddwn i ddim yma’n gwastraffu fy amser os nad o’n i’n credu y gallwn ni [gymhwyso],” meddai ymosodwr Real Madrid.

“Dw i’n credu bod y cefnogwyr yn credu y gallwn ni, ac mae eu hangen nhw arnon ni fel deuddegfed dyn.”

Pwyso a mesur y perfformiad

Yn ôl Ryan Giggs, roedd perfformiad Cymru yn erbyn Azerbaijan yn gyfuniad o’r “da a’r drwg”.

“Y broblem oedd ei fod yn dda iawn neu’n ddrwg iawn, ac mae angen i ni gydbwyso hynny,” meddai.

“Dydych chi ddim yn aml yn ennill o 4-0 mewn pêl-droed ryngwladol.

“Wnes i dipyn o ymdrech nos Wener i ddewis chwaraewyr sy’n ffit ac yna fe gewch chi eilyddion yn creu argraff fel Jonny Williams sy’n gallu newid gemau.”