Mae Caernarfon yn gobeithio am fuddugoliaeth gynta’r tymor mewn gêm oddi cartref yn erbyn Airbus heno.
Er bod y tîm wedi perfformio yn dda yn eu tair gêm gyntaf, dim ond dwy gêm gyfartal ac un golled gafodd y Canerîs hyd yn hyn y tymor hwn.
Ac er mai newydd ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru mae Airbus, tydi rheolwr Caernarfon ddim y disgwyl gornest hawdd.
“Mae’n mynd i fod yn gêm anodd yn eu herbyn nhw, “ meddai Sean Eardley.
“Maen nhw’n dîm da sy’n hoffi chwarae pêl-droed ar y llawr, yn debyg i ni, ac mae ganddyn nhw chwaraewyr da. Maen nhw wedi cael rhediad caled o ganlyniadau ac, o’r hyn dw i’n ei gasglu, mae eu perfformiadau wedi bod yn dda.”
Mae’r gêm yn fyw ar S4C a’r gic gyntaf am wyth o’r gloch.