Mae gan Forgannwg un cyfle olaf am fuddugoliaeth yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast heno (nos Wener, Awst 30), wrth iddyn nhw groesawu Hampshire i Gaerdydd yng ngêm ola’r grwpiau.

Hyd yn hyn, maen nhw wedi colli wyth gêm, mae un gêm wedi gorffen yn gyfartal a phedair wedi’u dirwyn i ben yn gynnar oherwydd y glaw.

Swydd Derby oedd y tîm diwethaf i orffen y gystadleuaeth heb fuddugoliaeth, a hynny yn 2007, wrth iddyn nhw chwarae wyth gêm, colli pedair, tair wedi’u dirwyn i ben oherwydd y tywydd ac un arall heb ei chynnal o gwbl.

Y timau

Un newid sydd yng ngharfan Morgannwg, wrth i Tom Cullen gymryd lle Dan Douthwaite, sydd wedi anafu cyhyr yn ei ochr.

Mae saith chwaraewr yn y garfan sydd wedi dod drwy rengoedd Morgannwg, gan gynnwys Roman Walker o Wrecsam, Callum Taylor o Gasnewydd a Prem Sisodiya o Gaerdydd, a’r tri wedi chwarae yn eu gêm gyntaf i’r sir yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Yng ngharfan Hampshire mae Aneurin Donald, cyn-fatiwr Morgannwg o Abertawe, a darodd ei hanner canred cyntaf (55) i’w sir newydd yn y gêm yn erbyn Middlesex.

Mae Hampshire a Middlesex yn gyfartal ar bwyntiau yn y tabl, ac mae’n rhaid i Hampshire guro Morgannwg er mwyn bod â gobaith o gyrraedd rownd yr wyth olaf.

Aneurin Donald

Hwn fydd ymweliad cyntaf Aneurin Donald â’i hen sir ers iddo symud i Hampshire, ar fenthyg yn wreiddiol, y tymor diwethaf.

Mae’n dweud ei fod yn edrych ymlaen at y profiad, ac yn gobeithio y caiff e groeso cynnes gan y dorf yng Ngerddi Sophia.

“Mae hi bob amser yn braf cael chwarae yn erbyn rhai o fy mêts a dychwelyd i le treuliais i dipyn o asmer fel chwaraewr iau yn dod drwy’r rhengoedd,” meddai.

“Gobeithio y bydd gyda fi lawer o ffrindiau a theulu yno hefyd.

“Dw i’n edrych ymlaen at fynd adre’. Ond mae angen i fi sicrhau na fydda i’n troi i mewn i’r ystafell newid gartre’ gan mai dyma fy nhro cynta’ nôl.

“Fe fydd yn deimlad gwahanol i fi. Gobeithio caf fi ymateb dal.

“Ces i fy nhrin yn dda iawn tra bo fi yno, gan bawb, gan gynnwys y cefnogwyr.”

Mae’n dweud ei fod e’n teimlo iddo fe wneud y penderfyniad cywir i adael Morgannwg a throi ei sylw at Hampshire.

“O safbwynt proffesiynoldeb, dyma’r symudiad cywir i fi, ac mae hynny wedi’i brofi wrth gyrraedd ffeinal yn Lord’s a bod tua’r brig yn yr adran gyntaf [yn y Bencampwriaeth] am ran helaeth o’r tymor, a chael chwarae yn erbyn y bowlwyr gorau bob wythnos.”

Carfan Morgannwg: N Selman, S Marsh, C Ingram (capten), D Lloyd, C Cooke, C Taylor, A Salter, R Smith, M de Lange, P Sisodiya, R Walker

Carfan Hampshire: K Abbott, M Crane, L Dawson, A Donald, J Fuller, L McManus, S Northeast, R Rossouw, Tabraiz Shamsi, J Vince (capten), C Wood

Sgorfwrdd