Mae chwaraewr pêl-droed Cymru a Bournemouth, David Brooks, wedi cael anaf i’w bigwrn fydd yn ei gadw o oddi ar y cae am dri mis.
Mae’n golygu na fydd yr ymosodwr, 22, ar gael i Gymru ar gyfer y gemau rhagbrofol Ewro 2020 yn erbyn Azerbaijan ar Fedi 6, Slofacia ar Hydref 10, na Croatia ar Hydref 13.
Ni fydd o ar gael i’r gêm gyfeillgar yn erbyn Belarws ar Fedi 9 ychwaith.
Mae’r newyddion yn ergyd mawr i dîm Ryan Giggs gyda’r chwaraewr wedi datblygu yn un o’r goreuon yn y garfan dros y flwyddyn ddiwethaf.
Fe enillodd cyn chwaraewr ieuenctid Manchester City wobr Chwaraewr y Flwyddyn yng ngwobrau Cymdeithas Bêl-droed Cymru ym mis Mawrth.
Cafodd ei enwebu ar gyfer gwobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn PFA hefyd ar ôl sgorio saith gôl yn Uwch Gynghrair Lloegr a chreu pump yn ei dymor cyntaf gyda Bournemouth.
Fe fydd David Brooks, wnaeth arwyddo Bournemouth o Sheffield United am £11.5m yn 2018, yn cael triniaeth wythnos nesaf.