Mae ymosodwr Cymru a Lerpwl, Harry Wilson, yn adnabyddus am sgorio goliau dramatig – ac wedi gwneud cryn enw i’w hun am ei ‘rocedi’ y tymor diwethaf.

Fe ychwanegodd y Cymro, 22, at y record hwnnw ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 31) i helpu ei glwb drechu Lyon mewn gêm gyfeillgar yn Stade de Geneve.

Roedd Lerpwl yn ennill 2-1 ar ôl y toriad cyn i Harry Wilson danio roced i gornel uchaf y gôl o 30 llath gan sicrhau bod rhywbeth sydd werth ei chofio ar ddiwedd sbel sâl o gemau cyfeillgar gan Lerpwl.

Mae rheolwr Lerpwl, Jurgen Klopp wedi bod yn hapus iawn gyda pherfformiadau Harry Wilson drwy gydol yr haf, ac mae trafodaethau parhaus wedi bod o gwmpas ei ddyfodol.

Mae’r ymosodwr, wnaeth chwarae’n wych ar fenthyg Derby County a thymor diwethaf, wedi chwarae yn y saith gem gyfeillgar mae Lerpwl wedi dros y ddeufis diwethaf.

Bu sion fod Bournemouth a Newcastle a diddordeb yn y Cymro, a’r sôn yw bod Lerpwl yn ei ystyried gwerth o gwmpas £25m