Mae’r Adar Gleision wedi arwyddo’r ymosodwr Almaeneg, Robert Glatzel, o glwb Heidenheim yng nghynghrair Bundesliga 2.
Fe fydd y chwaraewr 25 oed yn ymuno â’r clwb yn Stadiwm Dinas Caerdydd mewn cytundeb gwerth £5.5m.
Mae’r Almaenwr yn chwe throedfedd a phedair modfedd o daldra, ac fe sgoriodd dair gôl yng Nghwpan yr Almaen yn erbyn Bayern Munich pan gollon nhw’r gêm 5-4 ym mis Ebrill.
Robert Glatzel oedd prif darged rheolwr clwb pêl-droed Caerdydd, ac fe all ymosodwr arall fod yn ymuno cyn i’r ffenestr trosglwyddo gau.