Mae clwb pêl-droed Abertawe wedi cytuno ar gytundeb werth £17m, a fydd yn codi i £20m, gyda Sheffield United am eu hymosodwr, Olie McBurnie.
Yn ôl adroddiadau gan Sky Sports News, fe fydd y llanc 23 oed yn chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf felly, ar ôl misoedd o sïon ei fod yn gadael Cymru.
Olie McBurnie oedd prif chwaraewr yr Elyrch y tymor diwethaf. Fe sgoriodd 22 gól ac fe greeodd bedair mewn 42 gêm yn y Bencampwriaeth.
Fe sicrhaodd bod Abertawe yn sicrhau’r 10fed safle ar ddiwedd y tymor, ac mae ganddo dwy flynedd ar ol ar ei gytundeb yn Stadiwm y Liberty.
Mae hyn, ar ben ei dalent amlwg, yn esbonio pam fod Sheffield United wedi gorfod torri eu record ffi i arwyddo’r Albanwr.