Mae Gareth Bale wedi cyhoeddi llun ohono’i hun ar y cyfryngau cymdeithasol yn gwisgo ei git Real Madrid newydd, a hynny rai diwrnodau ar ôl i’r clwb ohirio ei drosglwyddiad i Tsieina.

Roedd disgwyl i’r Cymro, 30, ymuno â chlwb Jiangsu Sunig ar gytundeb tair blynedd, gyda rhai’n awgrymu y gallai ennill £1m yr wythnos yno.

Ond daeth diwedd ar hynny dros y penwythnos, pan ddaeth i’r amlwg na fydd Gareth Bale yn symud yr un cam o Real Madrid.

https://www.instagram.com/p/B0iP0ZbnaCO/?utm_source=ig_web_copy_link