Mae’r Adar Gleision wedi arwyddo chwaraewr Oxford United a Gogledd Iwerddon, Gavin Whyte am ffi o £2m.

Fe sgoriodd Gavin Whyte naw gôl i Oxford United y tymor diwethaf ac mae’r llanc 23 oed wedi ennill pum cap i’w wlad, gan sgorio gyda’i gyffyrddiad cyntaf ar ei ymddangosiad cyntaf yn rhyngwladol.

Roedd y canolwr, sydd hefyd yn chwarae ar yr asgell, wedi bod yn Oxford United am un tymor ar ôl ymuno o glwb Belffast Crusaders ym mis Gorffennaf 2018.

Dyma’r pumed chwaraewr i gyrraedd Stadiwm Dinas Caerdydd yr haf yn dilyn cyraeddiadau Joe Day, Aiden Flint, Curtis Nelson a Will Vaux ac mae’r rheolwr, Neil Warnock, yn gobeithio ychwanegu’r ymosodwr Robert Glatzel at y rhestr.

Mae ymosodwr yr Almaeneg yng Nghaerdydd ar brawf meddygol o flaen arwyddo o bosib am ffi werth £5.5m o glwb Heidenheim, yn y Bundesligsa Two.