Mae Ash Ruane wedi ymuno â Chlwb Pêl-droed Bangor 1876.
Fe dreuliodd yr ymosodwr 34 oed, sydd hefyd yn chwarae ar yr asgell, y tymor diwethaf gydag Aberystwyth.
Mae e hefyd wedi chwarae i’r Rhyl, Cei Conna, Derwyddon Cefn a Bae Colwyn.
Fe fydd rhaid i Gymdeithas Bêl-droed Cymru roi sêl bendith i’r trosglwyddiad cyn iddo gael ei gwblhau’n derfynol.