Mae Steve Rands, cyn-ddadansoddwr perfformiad Manchester City, wedi cael ei benodi’n Bennaeth Dadansoddi Perfformiad gan Steve Cooper, rheolwr Clwb Pêl-droed Abertawe.
Mae’n symud i Stadiwm Liberty o Derby, lle bu’n cydweithio â Frank Lampard y tymor diwethaf, ar ôl saith mlynedd yn gweithio gyda Pep Guardiola, Manuel Pellegrini a Roberto Mancini ym Manchester City.
Ar ôl ennill gradd o Brifysgol Hull, fe ddechreuodd ei yrfa gyda Barnsley yn 2007-08, cyn mynd yn ei flaen i Scunthorpe, lle treuliodd e dair blynedd wrth i’r clwb ennill dyrchafiad i’r Bencampwriaeth a chyrraedd rownd derfynol Tlws y Gynghrair Bêl-droed.
Cafodd ei benodi i’w swydd ym Manchester City gan Roberto Mancini yn 2011-12, wrth i’r clwb ennill tlws yr Uwch Gynghrair y tymor hwnnw, ac fe gafodd ei benodi’n brif ddadansodwr perfformiad gan Pep Guardiola, y rheolwr presennol.
Aeth y clwb yn ei flaen i ennill y gynghrair ddwywaith eto a Chwpan y Gynghrair dair gwaith cyn iddo symud at Derby.
Mae’n ymuno ag Abertawe ar ôl i Derby golli yn erbyn Aston Villa yn rownd derfynol y gemau ail gyfle y tymor diwethaf.
Hefyd yn ymuno â’r clwb mae’r ffisiotherapydd Lee Watkins, cyn-Bennaeth Meddygol a Gwyddorau tîm ieuenctid Yeovil.