Dyw’r Cymro Geraint Thomas ddim yn poeni yn dilyn ei drydydd gwrthdrawiad yn ystod ras feics Tour de France eleni.
Mae’n dal yn yr ail safle ar y cyfan, wrth iddo baratoi ar gyfer diweddglo’r ras dros y dyddiau nesaf.
Fe ddaeth oddi ar ei feic ar ôl 47km o’r unfed cymal ar bymtheg, a ddaeth i ben ar ôl 177km yn Nimes, ond fe lwyddodd i aros yn y peloton wrth i Caleb Ewan gipio buddugoliaeth yn y gwres.
“Fe wnes i dynnu hen grachen, felly roedd y croen newydd yn gwaedu,” meddai Geraint Thomas, a ddaeth oddi ar ei feic yn y cymal cyntaf a’r wythfed.
“Roedd gyda fi un llaw yn unig ar y bariau, ac fe wnaeth y gêrs neidio a mynd yn sownd, ac fe ges i fy nhaflu oddi ar fy meic wrth droi cornel. Ro’n i’n gwybod nad oedd hi’n ras, felly wnes i ddychwelyd i’r grŵp, ond mae’n rhwystredig.
“Roedd yn dipyn o beth brawychus.”
Y sefyllfa ar hyn o bryd
Bellach, mae bwlch o 95 eiliad rhwng y Cymro a’r Ffrancwr Julian Alaphilippe, sy’n arwain y ras.
Ond mae pedwar cystadleuydd o fewn 39 eiliad y tu ôl i’r Cymro.
Un cystadleuydd sydd allan o’r ras erbyn hyn yw Jakob Fuglsang, yn dilyn gwrthdrawiad yn ystod y 30km olaf, ac mae e bellach yn y nawfed safle ar y cyfan.
Yr Alpau fydd cyrchfan nesa’r cystadleuwyr, ac fe allai’r gwres llethol fod yn dipyn o her iddyn nhw.
Y disgwyl yw y gallen nhw orfod rasio mewn tymheredd o 33 gradd selsiws, ond fe fydd yn gostwng rywfaint wrth iddyn nhw gyrraedd mynyddoedd yr Alpau.