Mae Gareth Bale wedi cael ei ganmol gan ei reolwr Zinedine Zidane ar ôl ei berfformiad disglair yng nghrys Real Madrid neithiwr (nos Fawrth, Gorffennaf 23).

Enillodd y Sbaenwyr o 3-2 ar ôl ciciau o’r smotyn ar ddiwedd yr hyn a allai fod yn un o gemau ola’r Cymro cyn iddo adael y clwb.

Mae ei reolwr wedi cael ei feirniadu’n ddiweddar yn sgil sylwadau am ymadawiad yr ymosodwr, ac fe fu’n rhaid iddo wadu ei fod e wedi dangos diffyg parch i’r chwaraewr.

“Chwaraeodd e heddiw, roedd e am wneud, ac fe wnaeth e waith da,” meddai’r Ffrancwr yn Washington DC.

“Perfformiodd e’n dda, a dw i’n falch drosto fe.

“Roedd e am fod gyda ni heddiw, fe wnaeth e ymarfer yn ôl yr arfer, ac fe chwaraeodd e yn y gêm.”

Perfformiad

Daeth Gareth Bale i’r cae yn eilydd ar yr egwyl, gan sgorio naw munud yn ddiweddarach, wrth rwydo o’r cwrt chwech.

Sgoriodd Marco Asensio yn fuan wedyn i’w gwneud hi’n 2-2 ar ôl dwy gôl gan Arsenal yn yr hanner cyntaf.

Yn ystod y ciciau o’r smotyn, cafodd ergyd Gareth Bale ei harbed.

Ond er ei berfformiad, mae Zinedine Zidane yn dal i fynnu nad yw sefyllfa’r Cymro wedi newid.

“Mae e yma, a dw i ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd,” meddai.