Mae Jake Bidwell, yr amddifynnwr 26 oed sydd newydd ymuno â Chlwb Pêl-droed Abertawe, yn dweud bod colli yn Stadiwm Liberty gyda’i hen glwb y tymor diwethaf wedi creu argraff arno.
Roedd e’n aelod o dîm QPR a gollodd o 3-0 yn Abertawe fis Medi y llynedd.
Jake Bidwell yw’r chwaraewr cyntaf i ymuno â’r clwb ers i Steve Cooper gael ei benodi’n rheolwr yn dilyn ymadawiad Graham Potter am Brighton ar ddiwedd y tymor diwethaf.
Fe fydd e’n ymuno â’r garfan yn Sbaen, wrth iddyn nhw barhau â’u paratodau ar gyfer y tymor newydd.
Ac mae’n dweud ei fod e wedi cael ei ysbrydoli gan Angel Rangel, chwaraewr QPR a chyn-gapten yr Elyrch, a Connor Roberts wrth wneud penderfyniad ynghylch ei ddyfodol.
“Roedd y gêm honno’n un a greodd argraff arna’i oherwydd roedd yn brynhawn hir i ni,” meddai, wrth gofio’r golled y tymor diwethaf.
“3-0 oedd hi yn y pen draw, ond roedden ni’n hel cysgodion am y rhan fwyaf o’r prynhawn.
“Pêl-droed ymosodol yw’r arddull, yn amlwg, a dyna mae’r cefnogwyr am ei weld.
“Ond y peth pwysig, pan ydych chi’n cael pethau’n iawn, yw ennill gemau pêl-droed a fel dw i’n dweud, 3-0 oedd y canlyniad y diwrnod hwnnw, felly mae’n arddull sy’n arwain at ennill.
“Dw i’n credu y bydd yn gweddu i’r dim i fi, a dw i’n hoffi cael y cyfle i symud ymlaen o safle’r cefnwr, a gobeithio y galla i ychwanegu at y tîm a’u helpu nhw i wella.”