Mae clwb newydd dinas Bangor – sydd wedi’i sefydlu gan y cefnogwyr – wedi cyhoeddi enw’r fenter newydd.
Fe ddaeth ‘Clwb Pêl-Droed Bangor 1876 Football Club’ i fodolaeth wedi tymor cythryblus yn hanes clwb Dinas Bangor yn wyneb dyledion a chyhuddiadau o bob math yn erbyn y perchnogion.
Ar Fai 31, fe ddaeth Cymdeithas Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Dinas Bangor yn gwmni heb yr un ddyled, ac fe wahoddwyd yr aelodau i gynnig enw ar gyfer y tîm newydd. ‘Bangor 1876’ oedd y dewis unfrydol gan yr aelodau.
Mae’r enw, meddai’r gymdeithas, yn ffordd o dalu teyrnged i hanes pêl-droed yn y ddinas. Fe gynhaliwyd y cyfarfod i sefydlu’r hen glwb pêl-droed ar Ragfyr 18, 1876.
Mae’r clwb newydd yn ceisio gafael yn y traddodiad hir ac ymgyrraedd at y safonau uchaf o fewn y gêm, gan roi’r pwyslais ar y gymuned yn hytrach na gwneud duwiau bach o’r perchnogion.
Fe fydd manylion am liwiau’r tim newyddd, ynghyd â’r cae lle bydd yn chwarae, yn cael eu cyhoeddi’n fuan.