Fe fydd Morgannwg yn dechrau ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Derby ar gae San Helen yn Abertawe ar 167 am bump, ar ôl colli rhan sylweddol o’r diwrnod cyntaf o ganlyniad i law a golau gwael.
Ar ôl tipyn o law dros nos, doedd dim modd dechrau’n brydlon ac fe benderfynodd y dyfarnwyr, Michael Burns a Russell Warren, ar ôl archwilio’r cae y byddai’r gêm yn dechrau am 12 o’r gloch.
Ond ar ôl cawod arall, cafodd y chwaraewyr ginio cynnar, a dechrau am 1.10yp.
Ar ôl penderfynu bowlio ar ddiwrnod cymylog ar lan y môr, pedair pelen yn unig gymerodd hi i Swydd Derby gipio wiced, wrth i Tony Palladino daro coes Nick Selman o flaen y wiced, heb ei fod e wedi sgorio.
Ychwanegodd Charlie Hemphrey a Marnus Labuschagne 54 am yr ail wiced cyn i Alex Hughes ddal Marnus Labuschagne yn yr ail slip oddi ar fowlio Luis Reece, y bowliwr cyflym llaw chwith, am 37.
Yn ystod ei fatiad, fe darodd e chwe phedwar ac un chwech.
Roedd Charlie Hemphrey a David Lloyd wedi ychwanegu 47 am y drydedd wiced cyn i Tony Palladino daro coes Charlie Hemphrey o flaen y wiced am 32, a’r sgôr erbyn hynny’n 101 am dair.
Cwympodd y bedwaredd wiced ar 114, wrth i’r capten David Lloyd gael ei ddal yn sgwâr ar yr ochr agored gan Tom Lace oddi ar fowlio Logan van Beek am 32.
Roedden nhw’n 157 am bump pan gafodd Billy Root ei ddal yn y slip gan Wayne Madsen oddi ar fowlio Luis Reece am 28.
Gadawodd y chwaraewyr y cae gyda 25 pelawd o’r dydd yn weddill, a hynny o ganlyniad i’r golau gwael.