Mae Ryan Giggs, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, wedi awgrymu y gallai wneud nifer o newidiadau i’r tîm oddi cartref yn Hwngari nos fory (nos Fawrth, Mehefin 11).

 Collon nhw o 2-1 yn erbyn Croatia yn Osijek nos Sadwrn, ac maen nhw’n mynd am Budapest ar gyfer y drydedd gêm yn eu hymgyrch ragbrofol ar gyfer Ewro 2020.

 Un o’r ychydig rai wnaeth serennu yn y golled ddydd Sadwrn oedd yr eilydd David Brooks, a sgoriodd y gôl gysur, ac mae’n bosib y gallai ddechrau’r gêm nesaf.

 “Ro’n i’n hapus gyda pherfformiad y chwaraewyr, ac mae’n bosib y gallai fod yn fater o gadw pethau’n ffres,” meddai’r rheolwr.

 “Mae’n bwysig ein bod ni’n dod i ffwrdd gyda rhywbeth o’r gêm, ond mae yna 15 pwynt i gystadlu amdanyn nhw ar ôl yr un hon.”