Mae Jofra Archer yn dweud y byddai’n hapus i fowlio ar lain debyg i honno yng Nghaerdydd am weddill Cwpan y Byd.
Cipiodd bowliwr cyflym Lloegr dair wiced am 29 yn y fuddugoliaeth dros Bangladesh ar ôl cyrraedd cyflymdra o 95 milltir yr awr – un o ddau o fowlwyr Lloegr, ynghyd â Mark Wood, i gyrraedd y cyflymdra hwnnw.
Ar ôl yr ornest, dywedodd Shakib Al Hasan, a darodd ganred i Bangladesh, mai’r ddau yw bowlwyr cyflyma’r gystadleuaeth.
Mae sylwadau Jofra Archer am y llain yn dra gwahanol i’r rheiny gan Chandika Hathurusingha, prif hyfforddwr Sri Lanca, a ddywedodd nad oedd yn “addas ar gyfer gemau rhyngwladol undydd.”
A dydy barn y prif hyfforddwr ddim yn un leiafrifol wrth feirniadu’r llain, gyda nifer fawr o bobol yn ei chollfarnu ar y cyfryngau cymdeithasol ers dechrau’r gystadleuaeth, gyda nifer o dimau’n ei chael yn anodd sgorio rhediadau arni.
Yn wahanol i nifer o’r lleiniau eraill yn y gystadleuaeth, mae’r bêl yn cadw’n isel ac yn ei gwneud hi’n anodd i’r bowlwyr cyflym fod yn ymosodol wrth fowlio at y corff.
“Doedd llawer o’r pelenni oedd yn fyr ddim i fod yn fyr, ond fe wnaethon nhw gario drwodd,” meddai Jofra Archer.
“Pe bawn i’n cael dewis, byddwn i’n dewis [y llain] hon am weddill y gystadleuaeth, pe baen ni’n gallu ei chael hi.”