Mae Chris Mepham, amddiffynnwr tîm pêl-droed Cymru, yn dweud bod y gêm yn Hwngari nos Fawrth (Mehefin 11) yn “bwysig” ar ôl colli o 2-1 yng ngemau rhagbrofol Ewro 2020 yn Croatia.

Mae Hwngari ar frig y grŵp ar ôl curo Azerbaijan o 3-1.

Mae Cymru dri phwynt islaw’r brig, gyda Hwngari a Croatia uwch eu pennau, ond mae ganddyn nhw gêm wrth gefn.

“Bydden ni’n siomedig iawn pe baen ni’n dod i ffwrdd heb bwyntiau o’r ddwy gêm,” meddai Chris Mepham.

“Dw i ddim yn credu bod rhaid ennill, ond mae’n gêm bwysig iawn er mwyn cael canlyniad.

“Dw i’n gweld Croatia fel y tîm i’w guro yn y grŵp, ond cafodd Hwngari ganlyniad yn eu herbyn nhw, felly mae angen i ni ddangos y parch iddyn nhw maen nhw’n ei haeddu.

“Maen nhw’n dîm da ac ar ôl y canlyniad hwn, mae’n bwysicach fyth ein bod ni’n cael triphwynt.”

Edrych ymlaen at y gêm

Mae disgwyl i Ryan Giggs wneud nifer o newidiadau i’r tîm, gydag ychydig ddiwrnodau rhwng y ddwy gêm ac yn enwedig yn sgil y gwres yn Croatia.

Gallai Chris Gunther ac Ethan Ampadu gael eu dewis, ynghyd â David Brooks, oedd wedi serennu o’r fainc yn Osijek wrth sgorio’i gôl ryngwladol gyntaf.