Daeth cadarnhad fod Cwpan Criced y Byd wedi cyfrannu £16m at economi Caerdydd.
Mae Stadiwm Cymru Caerdydd yng Ngerddi Sophia yn cynnal pedair gêm yn ystod y gystadleuaeth.
Mae’r brifddinas eisoes wedi cynnal gemau rhwng Seland Newydd a Sri Lanca, Afghanistan a Sri Lanca, Lloegr a Bangladesh, a bydd Lloegr yn herio Afghanistan ddydd Sadwrn nesaf (Mehefin 15).
Mae’r swm yn cynnwys gwerthiant tocynnau a lletygarwch, costau teithio a gwariant ymwelwyr ar ddiwrnodau’r gemau.
Daw’r newyddion wrth i Gyngor Caerdydd baratoi i drafod strategaeth digwyddiadau’r brifddinas, o safbwynt byd y campau a thu hwnt, yr wythnos nesaf.
‘Arwain y ffordd ar gyfer digwyddiadau’
“Dydy enw da Caerdydd am gynnal digwyddiadau, sy’n destun eiddigedd, ddim wedi digwydd trwy ddamwain,” meddai Peter Bradbury, yr aelod cyngor sy’n gyfrifol am ddiwylliant a hamdden.
“Mae’n ganlyniad strategaeth tymor hir lwyddiannus o gydweithio â’n partneriaid ‘Tîm Cymru’ i sefydlu Caerdydd fel dinas sy’n arwain y ffordd ar gyfer digwyddiadau.
“O’r prif ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol megis rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr a Chwpan Criced y Byd i uwchgynadleddau Ewropeaidd, cyfarfod NATO a chyngherddau a digwyddiadau diwylliannol ar raddfa fawr – mae Caerdydd yn gwneud y cyfan yn arbennig o dda.
“Digwyddiadau sy’n gwneud Caerdydd yn ddinas mor fywiog, ac maen nhw’n dod â manteision sylweddol i economi’r ddinas, ond mae gwneud iddyn nhw ddigwydd yn dod ar gost sylweddol i’r cyngor ac i’n partneriaid statudol.”