Mae Clwb Pêl-droed Lerpwl yn dathlu ar ôl curo Spurs o 2-0 yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr ym Madrid neithiwr (nos Sadwrn, Mehefin 1).
Sgoriodd Mo Salah o’r smotyn ar ôl dwy funud yn stadiwm Wanda Metropolitano, a chafodd y fuddugoliaeth ei choroni gan Divock Origi wrth iddo rwydo’n hwyr yn y gêm i gadarnhau’r canlyniad.
Roedd Spurs o dan bwysau ar unwaith pan lawiodd Moussa Sissoko y bêl wrth iddi gael ei chroesi gan Sadio Mane a chafodd y penderfyniad ei gadarnhau gan y dyfarnwr fideo.
A sgoriodd Divock Origi chwip o gôl ar draws y cwrt cosbi i sicrhau’r tlws.
Dyma chweched teitl Ewropeaidd Lerpwl, ac fe ddaw flwyddyn ar ôl iddyn nhw golli yn y rownd derfynol.
Dyma’r tro cyntaf i Spurs gyrraedd y rownd derfynol.
Ymateb cymysg
Mae pobol wedi bod yn ymateb i’r canlyniad ar y cyfryngau cymdeithasol.
Tra bod rhai yn hapus i weld y Cochion yn ennill, roedd eraill am weld Spurs yn ennill y tlws am y tro cyntaf yn eu hanes.
Da iawn Lerpwl. Spurs yn chwarae’n well ar y noson ond y canlyniad sydd yn cyfri yn y diwedd!!
— Matthew Jones (@Jones73Matthew) June 1, 2019
Dwi’n falch bod evan yn cael gweld nhw yn curo un to ’ma…achos nabod lerpwl fydd o’n 50 tro nesa fydda nhw’n curo wbath! 😂😂
— Sioned (@SionedSavloy) June 1, 2019
Hen niwsans di Lerpwl yn ennill y Champions League ‘fyd
— Osian Gruffydd (@OsianGruffydd) June 1, 2019
Ac fe wnaeth rhai ymateb â’u tafod yn eu boch:
YESSSS!!! Lerpwl!! Pencampwyr Ewrop!!! pic.twitter.com/vf0L6KZBpT
— Marc James (@marcjames12) June 1, 2019