Mae Seland Newydd wedi chwalu Sri Lanca, gan gipio buddugoliaeth o ddeg wiced yng Nghwpan y Byd yng Nghaerdydd.

Tarodd Martin Guptill 73 oddi ar 51 o belenni, a sgoriodd Colin Munro 58 oddi ar 47 o belenni wrth iddyn nhw gwrso nod o 137 mewn 16.1 o belawdau yn yr ornest 50 pelawd.

Dyma’r trydydd tro yn unig iddyn nhw ennill o ddeg wiced yn hanes Cwpan y Byd.

Fe ddaeth ar ôl iddyn nhw fowlio Sri Lanca allan am 136, wrth i Matt Henry a Lockie Ferguson gipio tair wiced yr un.

Y dafl yn allweddol

Ar lain werdd, talodd penderfyniad Seland Newydd i fowlio ar ei ganfed wrth iddyn nhw gipio’r wiced gyntaf oddi ar ail belen yr ornest pan darodd Matt Henry goes Lahiru Thirimanne o flaen y wiced.

Collodd Sri Lanca eu tair wiced nesaf mewn cyfnod o 3.4 o belawdau, gan gynnwys dwy wiced mewn dwy belen i Matt Henry.

Cynigiodd Kusal Perera ddaliad syml i Colin de Grandhomme, a’r batiwr yn dychwelyd i’r pafiliwn ar ôl sgorio 29. Dilynodd Kusal Mendis y belen ganlynol, pan gipiodd Martin Guptill chwip o ddaliad yn y slip, a Sri Lanca’n 46 am dair.

Roedden nhw’n 53 am bedair pan darodd Lockie Ferguson goes Dhananjaya de Silva o flaen y wiced am bedwar, ac yn 59 am bump wrth i Angelo Mathews gynnig daliad syml i’r wicedwr Tom Latham oddi ar fowlio Colin de Grandhomme.

Dwyshaodd eu trafferthion dair pelen yn ddiweddarach pan gafodd Jeetan Mendis ei ddal yn y gyli gan Jimmy Neesham oddi ar fowlio Lockie Ferguson, a’r sgôr yn 60. Erbyn hynny, roedden nhw wedi colli pum wiced mewn 7.1 pelawd.

Yn nwylo Thisara Perera a Dimuth Karunarathne roedd tynged Sri Lanca yn y pen draw, ac fe aethon nhw â’u tîm y tu hwnt i gyfanswm o 100 ar ôl 22 pelawd gyda . Ond roedd tipyn o waith i’w wneud o hyd i sicrhau sgôr parchus.

Serch hynny, collodd Sri Lanca Thisara Perera yn fuan wedyn, pan gafodd ei ddal gan Trent Boult ar ymyl y cylch oddi ar fowlio’r troellwr llaw chwith Mitch Santner.

Isuru Udana oedd yr wythfed batiwr allan pan gafodd ei ddal gan Matt Henry wrth yrru ar ochr y goes oddi ar fowlio Jimmy Neesham, a’r sgôr erbyn hynny’n 114 ym mhelawd rhif 25.

Cwympodd y nawfed wiced ar ôl 28.1 pelawd, pan wnaeth Trent Boult ddarganfod ymyl bat Suranga Lakmal i roi daliad i Mitch Santner, a’r sgôr yn 130.

Cafodd Lasith Malinga ei fowlio gan Lockie Ferguson am un i ddod â’r batiad i ben ar 136 mewn 29.2 pelawd, a hynny ar ôl i Dimuth Karunarathne oroesi gwaedd am ddaliad ar y ffin i fod yr ail chwaraewr erioed, ar ôl Ridley Jacobs [India’r Gorllewin v Awstralia, 1999], i gario’i fat.

Cwrso’r nod

Wrth i Seland Newydd ddechrau cwrso 137 i ennill, roedd Martin Guptill yn ffodus o gael ei ollwng yn y slip gan Dimuth Kunarathne yn y belawd gyntaf a gafodd ei bowlio gan Lasith Malinga.

Roedden nhw eisoes wedi cyrraedd 50 erbyn yr wythfed pelawd, wrth i’r ddau fatiwr glatsio yn erbyn Lasith Malinga a Suranga Lakmal.

Llai na chwe phelawd yn ddiweddarach, roedden nhw wedi cyrraedd partneriaeth o 100, gyda Martin Guptill yn cyrraedd ei hanner canred oddi ar 39 o belenni, a Colin Munro yn ei gyrraedd oddi ar 41 o belenni. Rhyngddyn nhw, roedden nhw eisoes wedi taro 11 pedwar a dau chwech.