Mae cynnal gemau yng Nghwpan y Byd yn codi Clwb Criced Morgannwg i “lefel newydd”, yn ôl Hugh Morris, eu prif weithredwr.
Bydd Seland Newydd yn herio Sri Lanca heddiw yn y gêm gyntaf o bedair sydd i’w cynnal yn y brifddinas dros yr wythnosau nesaf, wrth i Gymru groesawu rhai o dimau a chwaraewyr gorau’r byd.
Bydd Afghanistan yn herio Sri Lanca ddydd Mawrth (Mehefin 4), Lloegr yn chwarae yn erbyn Bangladesh ddydd Sadwrn nesaf (Mehefin 8) a De Affrica’n herio Afghanistan ar Fehefin 15.
“Dw i wedi cyffroi’n lân,” meddai Hugh Morris wrth golwg360.
“Ry’n ni wedi bod yn aros amser hir, ac yn cael cyfarfodydd ers tua dwy flynedd, mae’n siŵr.
“Dw i’n credu ein bod ni mewn sefyllfa dda, gyda thîm da yn gweithio yma.
“Ry’n ni wedi bod yn ffodus iawn dros y chwe blynedd diwethaf wrth gynnal Tlws Pencampwyr yr ICC yn 2013 a 2017, felly ry’n ni wedi hen arfer â gweithio gyda’r ICC.
“Ond does dim amheuaeth fod Cwpan y Byd yn ein codi ni i lefel newydd.”
‘Lwcus’ o gynnal gemau rhyngwladol
Yn ôl Hugh Morris, mae’r clwb yn “lwcus o gael cynnal gemau rhyngwladol”, ac mae’n dweud bod cynnal cystadleuaeth fwya’r byd criced yn gofyn am gryn dipyn o waith paratoi.
“Yn ymarferol, mae’n golygu ail-frandio’r stadiwm gyfan gyda logos ar gyfer Cwpan y Byd.
“Mae staff gweithrediadau mawr yn dod o’r ICC [Cyngor Criced Rhyngwladol] i weithio ochr yn ochr â’n staff er mwyn cynnal y twrnament.
“Dyma ddigwyddiad criced mwya’r byd, a’r trydydd digwyddiad mwyaf yn y byd chwaraeon ar y cyfan, felly mae’n beth mawr iawn i ni.”
Sut mae’n cymharu â 1999?
Roedd Gerddi Sophia ymhlith y caeau oedd wedi cynnal gemau yng Nghwpan y Byd y tro diwethaf i’r gystadleuaeth gael ei chynnal yng Nghymru a Lloegr, ond mae Hugh Morris yn dweud y bydd y cyfan yn wahanol iawn y tro hwn.
“I ddechrau, mae gyda ni stadiwm sy’n addas i gynnal Cwpan y Byd, mae gyda ni dîm gweithrediadau sy’n gyfarwydd â rheoli digwyddiadau mawr ac felly ry’n ni’n barod iawn y tro hwn.”
Manteision cynnal Cwpan y Byd
Fe fydd Cwpan y Byd yn dod ag arian sylweddol i glwb sydd wedi diodde’n ariannol dros y blynyddoedd diwethaf.
Ond mae Hugh Morris yn dadlau mai’r cyhoeddusrwydd o gynnal y fath ddigwyddiad sydd bwysicaf.
“Fe gewch chi enw da ar draws y byd wrth gynnal digwyddiad byd-eang, ac o weithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid, yn enwedig Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, er mwyn cynnig profiad gwych i gwsmeriaid.
“Mae adeiladu ar ein henw da yn bwysig iawn ac os ydyn ni’n llwyddo wrth gynnal digwyddiad mawr fel hwn, mae’n rhoi tipyn o hyder i bawb.
“Dw i’n credu mai Caerdydd yw un o ddinasoedd chwaraeon gorau gwledydd Prydain.
“Ry’n ni wedi cynnal rhai o’r digwyddiadau chwaraeon mwyaf yn y byd ac mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd wedi hen arfer â gwneud hynny.
“Mae’n fantais fawr, ac yn un o’r rhesymau pam ein bod ni wedi ennill yr hawl i gynnal pedair gêm yma.”
Seland Newydd v Sri Lanca
Cyrhaeddodd Seland Newydd y rownd derfynol y tro diwethaf ond fe gollon nhw yn erbyn Awstralia.
Ac mae gan Sri Lanca hanes o lwyddo yng Nghwpan y Byd, ar ôl ennill y gystadleuaeth yn 1996.
Yn ôl Hugh Morris, mae’n argoeli i fod yn dipyn o frwydr.
“Mae Seland Newydd bob amser yn gwneud yn dda mewn cystadlaethau mawr a byddan nhw’n gystadleuol iawn, tra bod gan Sri Lanca record wych yng Nghwpan y Byd, felly mae’n ddechrau gwych i ni.
“Mae’r llain yn dda ac yn newydd ac wedi cael marciau uchel ar gyfer gemau 50 pelawd y tymor hwn, ac mae’r ddau dîm yn ddigon da i gael sgôr uchel a dw i’n disgwyl gêm agos.”