Mae Shane Williams yn dweud ei bod yn bwysig denu digwyddiadau fel Cwpan Criced y Byd i Gaerdydd.
Fe fu’n siarad â golwg360 ar ddiwedd digwyddiad ‘Y Tafliad Mawr’ i groesawu tlws â phêl swyddogol y gystadleuaeth i Gaerdydd, ddiwrnod cyn y gêm gyntaf yn y brifddinas rhwng Seland Newydd a Sri Lanca yn Stadiwm Cymru Caerdydd yng Ngerddi Sophia.
Cyn-asgellwr Cymru a’r Gweilch oedd y person olaf i ddal y bêl a’i thaflu i ofal y stadiwm cyn yr ornest fawr, sy’n dechrau bore fory (dydd Sadwrn, Mehefin 1) am 10.30yb.
Erbyn hynny, roedd y bêl wedi cael ei dal 1,835 o weithiau.
Ar ôl cyrraedd y ddinas ar drên, teithiodd y bêl i Stadiwm Principality, ar hyd afon Taf i Fae Caerdydd ac Eisteddfod yr Urdd, cyn dychwelyd i ganol y ddinas heibio’r castell ac yna i Stadiwm Cymru Caerdydd.
“Mae cael criced yma’n bwysig iawn”
“Rydw i yma heddiw i gefnogi Cwpan y Byd yn dod i’r stadiwm, a fi’n edrych ymlaen i weld cwpwl o gemau,” meddai Shane Williams.
“Mae hwn wedi bod yn brofiad gwahanol i fi, achos rygbi o’n i’n chwarae, a dyma’r tro cyntaf i fi wneud unrhyw beth gyda’r criced.
“Mae’n bwysig gydag unrhyw chwaraeon i’w gael e yng Nghaerdydd. Ry’n ni’n gwybod fod rygbi a phêl-droed rhyngwladol yn dod yma, so mae cael criced yma’n bwysig iawn. Ni’n gallu gweld gyda’r bobol sydd wedi troi lan bo nhw’n meddwl yr un peth hefyd.
“Mae Caerdydd yn edrych ymlaen gyda hyder i ddechrau’r gemau fory, gyda Sri Lanca a Seland Newydd. Fi’n bles iawn i weld timau gorau’r byd yn dod yma. Mae’n bwysig fod hynny’n digwydd.”
Shane yn darogan
Pwy, tybed, mae Shane Williams yn credu fydd yn ennill y gystadleuaeth?
“Fi’n gwybod fod lot o bobol yn siarad am Loegr. Mae momentwm gyda nhw.
“O gael y gemau yng Nghymru a Lloegr, mae’n siŵr mai nhw fydd y ffefrynnau i ennill Cwpan y Byd.”