Mae Clwb Pêl-droed Brighton yn awyddus i benodi Graham Potter yn rheolwr.

Mae adroddiadau’n awgrymu bod y clwb wedi cysylltu â’r Elyrch am ganiatâd i gynnal trafodaethau.

Cafodd Chris Hughton ei ddiswyddo ar ôl i Brighton golli o 4-1 gartref yn erbyn Manchester City, y pencampwyr.

Ond roedden nhw eisoes wedi sicrhau eu lle yn Uwch Gynghrair Lloegr am dymor arall.

Gorffennodd Abertawe’n ddegfed yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, ac mae Graham Potter wedi cael ei ganmol am ei ddull o chwarae ac am ddatblygu doniau’r to iau yn absenoldeb chwaraewyr profiadol.