Mae Cameron Carter-Vickers yn dweud y byddai’n croesawu’r cyfle i ddychwelyd i Glwb Pêl-droed Abertawe yn y dyfodol.
Treuliodd yr amddiffynnwr canol gyfnod ar fenthyg o Spurs y tymor hwn, gan chwarae mewn 30 o gemau yn absenoldeb y Cymro Joe Rodon, oedd wedi bod allan ar ôl torri ei droed.
Roedd yr Americanwr ar y fainc am ran helaeth o hanner cynta’r tymor, ond fe ddaeth yn rhan ganolog o’r amddiffyn ochr yn ochr â Mike van der Hoorn erbyn y diwedd.
‘Wrth fy modd’
“Dw i wedi mwynhau’n fawr iawn, dw i wedi bod wrth fy modd bob eiliad a bod yn onest,” meddai Cameron Carter-Vickers.
“Mae’r bois wedi bod yn wych a’r bos [Graham Potter] wedi bod o’r radd flaenaf, mae e wir yn helpu chwaraewyr i wella wrth chwarae oddi tano fe.
“All y profiad o gael dull gwahanol o chwarae ddim ond fy helpu i ddatblygu.
“Dw i’n teimlo ’mod i wedi dysgu dipyn a dw i’n falch o fod wedi chwarae cymaint, a byddwn i wrth fy modd yn cael dychwelyd ryw ddiwrnod, ond yn amlwg mae llawer o benderfyniadau o gwmpas hynny nad ydyn nhw’n benderfyniadau i fi eu gwneud.
“Ond byddwn i’n agored i hynny e bai’r cyfle’n dod yn y dyfodol.”
Canmol y rheolwr a’r cefnogwyr
Roedd Cameron Carter-Vickers yn llawn canmoliaeth i Graham Potter a’r cefnogwyr hefyd.
“Mae’r bos yn dda iawn yn dactegol, mae e’n hoff o chwarae o’r cefn a chadw’r meddiant. Dw i’n mwynhau chwarae fel hynny ac mae chwarae ar ran y cefnogwyr wedi bod yn wych hefyd.
“Maen nhw bob amser yn groch ac yn cefnogi’r tîm, ac mae’n hwb cael chwarae ger eu bron gan eu bod nhw’n ein hannog ni i wneud yn dda.”