Mae rheolwr-chwaraewr clwb pêl-droed Bangor wedi gadael y clwb er mwyn ail-ymuno â Llandudno, wrth dynnu ei ddirprwy reolwr hefyd gydag o.

Fe ymunodd Gary Taylor-Fletcher â’r clwb yn Nantporth yn chwaraewr ym mis Ionawr 2017 ac fe dreuliodd ddau gyfnod yn rheolwr ers Mawrth 2017.

Fe arweiniodd y cyn-chwaraewr Blackpool a Leicester City y clwb i’r ail safle yn Uwch Gynghrair Cymru yn ystod tymor 2017-18.

Ddiwedd y tymor hwnnw, fe ddisgynnodd Bangor i’r Huws Gray Alliance yn dilyn problemau ariannol.

Yn ddiweddarach ym mis Tachwedd 2018, fe arwyddodd Gary Taylor-Fletcher i Landudno, cyn dychwelyd i Fangor yn hwyrach yn yr un mis.

Nawr, mae’n ymuno â Llandudno am yr eildro, y tro hwn gyda’i ddirprwy reolwr, Alan Moogan.

“Penderfyniad mawr”

“Dw i eisiau dweud diolch i bawb yng nghlwb pêl-droed Bangor ac yn enwedig i gadeirydd y clwb, Stephen Vaughan Jr am roi blas i mi ar reoli,” meddai Gary Taylor-Fletcher.

“Mae’r clwb bob tro am fod yn rhan fawr o fy nhaith i mewn i hyfforddi pêl-droed a dw i wedi caru pob eiliad.

“Roedd yn benderfyniad mawr i adael, ond ar ôl dwy flynedd a hanner dw i’n teimlo mai rwan ydi’r adeg iawn am her newydd.”

Mae clwb pêl-droed Bangor wedi dechrau chwilio am reolwr newydd.