Mae tîm criced Morgannwg wedi ennill eu gêm 50 pelawd olaf yng Nghwpan Royal London o ddwy wiced yn erbyn Sussex yn Hove, gan gwrso’u nod fwyaf erioed, a’r nod fwyaf erioed mewn gêm 50 pelawd ar gae Hove.

Tarodd Laurie Evans 110 a Luke Wright 97 wrth i’r Saeson sgorio 347 am saith wrth fatio, ond cyrhaeddodd Morgannwg y nod ar ôl i Billy Root sgorio 78. Dan Douthwaite gafodd ei enwi’n seren y gêm ar ôl sgorio 52 heb fod allan a chipio dwy wiced yn ei ail gêm i’r sir.

Dechrau da i fowlwyr Morgannwg

Ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio, collodd Sussex eu wiced gyntaf yn y bumed pelawd, wrth i Phil Salt, sy’n enedigol o Fodelwyddan, gael ei ddal gan Lukas Carey oddi ar fowlio Marchant de Lange, a’r sgôr yn 30 am un.

Cwympodd yr ail wiced bum pelawd yn ddiweddarach, pan gipiodd y capten a’r wicedwr Chris Cooke ddaliad amheus oddi ar fowlio Dan Douthwaite, myfyriwr Caerdydd, i waredu George Garton, a’r penderfyniad wedi’i drosglwyddo i’r trydydd dyfarnwr.

Cipiodd y bowliwr cyflym, sydd yn ei wythnosau cyntaf gyda Morgannwg, ei ail wiced pan fowliodd e Stiaan van Zyl am 15, a’r sgôr yn 96 am dair ar ôl 18.1 o belawdau.

Batiad campus i Sussex

Ond daeth Laurie Evans i’r llain a sgorio 110 oddi ar 87 o belenni, gan gynnwys 12 pedwar a dau chwech, mewn partneriaeth o 107 gyda Luke Wright.

Collodd Luke Wright ei wiced ar 97, pan gafodd ei ddal gan Billy Root oddi ar fowlio Lukas Carey, a’r sgôr yn 203 am bedair.

Wrth i Laurie Evans barhau i roi pwysau ar Forgannwg, sgoriodd David Wiese 57 heb fod allan mewn partneriaeth o 121 mewn 12.4 o belawdau.

Bowlio campus tua’r diwedd

Ar ôl i Laurie Evans gael ei ddal gan Jeremy Lawlor oddi ar fowlio Marchant de Lange, roedd Sussex yn 324 am bump, ac fe gollon nhw’r capten Ben Brown a Will Beer am 16 rhediad, a gorffen y batiad ar 347 am saith.

Er bod ei ddeg pelawd yn gostus, gorffennodd Marchant de Lange gyda thair wiced am 74, a chipiodd Lukas Carey a Dan Douthwaite ddwy wiced yr un. Rhaid canmol Roman Walker, y bowliwr cyflym ifanc o Wrecsam, oedd wedi bowlio pedair pelawd am 21 rhediad a chadw’r gyfradd sgorio i lawr ar adeg allweddol yn y batiad.

Cwrso nod sylweddol

Wrth gwrso 348 i ennill, cafodd David Lloyd, y chwaraewr amryddawn o Wrecsam, ei ddal gan Stiaan van Zyl oddi ar fowlio Mir Hamza, a’r sgôr yn 32 am un o fewn chwe phelawd.

Cafodd Jeremy Lawlor ei ddal gan Danny Briggs oddi ar fowlio Abi Sakande am 48, wrth ergydio’n syth i’r awyr oddi ar ymyl y bat i ddod â phartneriaeth o 49 gyda Chris Cooke i ben.

Roedd Chris Cooke yn dechrau sefydlogi’r batiad pan gafodd ei fowlio’n dwyllodrus gan y troellwr coes Will Beer am 41, a’r sgôr yn 117 am dair ar ôl 19 pelawd.

Hanner ffordd trwy’r pelawdau, roedd Morgannwg yn 146 am dair, 19 rhediad ar y blaen i sgôr Sussex ar yr adeg gyfatebol.

Dan bwysau ar ôl dechrau’n gadarn

Daeth hanner canred Marnus Labuschagne, ei gyntaf i Forgannwg, gydag ergyd am chwech oddi ar belen 54 y batiad, ar ôl iddo daro tri phedwar a dau chwech.

Ond fe gafodd ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan y troellwr llaw chwith Danny Briggs yn yr un belawd, gan dorri partneriaeth o 77 gyda Billy Root.

Roedd Morgannwg yn 210 am bump pan gafodd Charlie Hemphrey ei ddal gan Abi Sakande am chwech oddi ar fowlio Danny Briggs, wrth i’r bowliwr gipio’i ail wiced.

Daeth hanner canred Billy Root oddi ar 50 o belenni, gan gynnwys pedwar pedwar, ac roedd tynged ei dîm bellach yn ei ddwylo fe a’i bartner Dan Douthwaite yn niwedd yr ornest.

Y rhod yn troi

Ar ôl clatsio gan Billy Root a chefnogaeth bwyllog gan Dan Douthwaite, roedd angen 94 ar Forgannwg oddi ar ddeg pelawd ola’r gêm.

Ond cafodd Billy Root ei redeg allan gan Danny Briggs am 78, a’i fatiad yn cynnwys saith pedwar ac un chwech oddi ar 66 o belenni.

Parhau i glatsio wnaeth Graham Wagg, fel bod angen 44 o rediadau oddi ar bum pelawd ola’r ornest, ond cafodd ei ddal gan y trydydd dyn Luke Wright oddi ar fowlio Mir Hamza am 19, a’r sgôr yn 306 am saith.

Tarodd Dan Douthwaite a Marchant de Lange chwech a phedwar yr un i leihau’r nod yn sylweddol, ac roedd angen 17 oddi ar 18 o belenni wrth i Dan Douthwaith gyrraedd ei hanner canred oddi ar 32 o belenni, ar ôl taro pum pedwar a dau chwech.

Cafodd Marchant de Lange ei ddal ar y ffin ar ochr y goes wrth yrru i lawr corn gwddf Phil Salt oddi ar fowlio George Garton am 19, ond daeth Roman Walker i’r llain yn ei gêm gyntaf a tharo chwech i ennill o ddwy wiced.